Black Friday: 20% off the December Broadcast Intensive with code MIC20 until Dec 5 →

Sut i ymarfer sylwebu gartref

Home - Sut i ymarfer sylwebu gartref

10 ymarfer gan sylwebydd Cwpan Rygbi’r Byd

Dallen Stanford, sylwebydd Cwpan Rygbi’r Byd a sylfaenydd Broadcast Academy

Dallen Stanford yn sefyll yn y blwch sylwebu yn Nantes cyn gêm yr Ariannin – Chile yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2023, gyda meicroffon, nodiadau, clustffonau a desg sain
Yn barod i sylwebu ar gêm yr Ariannin – Chile yn Nantes, Cwpan Rygbi’r Byd 2023. Dw i bob amser yn sylwebu ar fy nhraed, ac yn argymell gwneud hynny gartref hefyd

Pan ddechreuais i yn 2012, doedd gen i ddim profiad o gwbl. Ro’n i jyst wrth fy modd yn siarad ac wrth fy modd gyda rygbi. Doedd gen i unman i ymarfer, felly dysgais i’n fyw, ar yr awyr, ac roedd modd clywed hynny. Roeddwn i’n siarad yn rhy gyflym a doedd neb wedi dysgu i mi sut i drosglwyddo i egwyl, sut i ddod yn ôl ohoni na sut i gloi gyda’r canlyniad terfynol.

Does dim rhaid i ti ddysgu fel’na. Gelli di ymarfer bron popeth mae sylwebydd yn ei wneud gartref gyda gliniadur, meicroffon ac ailchwarae gêm. O’r sylwebwyr dw i wedi’u hyfforddi, nid y rhai mwyaf talentog sy’n datblygu gyflymaf, ond y rhai sy’n ymarfer ychydig bob wythnos ac yn gwrando’n ôl arnyn nhw eu hunain yn onest.

Felly sut wnes i roi’r gorau i siarad yn rhy gyflym? Drwy wrando’n ôl arna i fy hun. Dim ond pan wyt ti’n clywed dy hun rwyt ti’n deall ble rwyt ti arni a sut rwyt ti’n swnio, ac mae gwrando’n feirniadol ar dy recordiadau dy hun yn hynod o bwysig. Weithiau byddi di’n gwingo wrth glywed dy lais dy hun neu rywbeth ddwedaist ti. Mae hynny’n rhan o’r broses. Po fwyaf o gemau rwyt ti’n sylwebu arnyn nhw, mwyaf cyfforddus y byddi di gyda chyflymder dy siarad, yr emosiwn rwyt ti’n ei gyfleu a’r egni yn dy lais.

Beth sydd ei angen arnat ti

Does dim angen stiwdio arnat ti. Mae angen:

  • Gliniadur neu dabled i chwarae’r gêm.
  • Meicroffon. Mae meicroffon USB gweddol yn ddelfrydol, ond i ddechrau mae ap recordio dy ffôn yn ddigon.
  • Clustffonau, fel nad yw sain y gêm yn mynd i mewn i’r recordiad.
  • Ystafell dawel. Mae arwynebau meddal (soffa, llenni, cwpwrdd yn llawn dillad) yn gwneud i’r llais swnio’n lanach.
  • Llyfr nodiadau neu daflen gêm un dudalen ar gyfer paratoi.
  • Lle i sefyll. Mae sylwebu ar dy draed yn hynod o bwysig, hyd yn oed gartref. Mae’n newid dy anadlu, dy egni a sut rwyt ti’n swnio.

Cam 1: dewisa’r gemau iawn

Dechreua gyda gemau cyfan, nid uchafbwyntiau. Eiliadau mawr yn unig yw uchafbwyntiau, ond munudau tawel rhyngddyn nhw yw’r rhan fwyaf o sylwebaeth, a dyna lle mae dechreuwyr yn ei chael hi anoddaf.

  • Dewisa gemau y gelli di ddod o hyd iddyn nhw’n gyfan ar YouTube neu ar wasanaeth ffrydio.
  • Tro’r sain i ffwrdd, fel nad wyt ti’n pwyso ar y sylwebwyr gwreiddiol.
  • Cymysga nhw: gêm rwyt ti’n ei hadnabod yn dda, gêm dwyt ti erioed wedi’i gweld, a gêm o gynghrair neu wlad dwyt ti ddim yn ei dilyn. Mae’r un olaf yn dy orfodi di i baratoi.

Cam 2: paratoa fel ar gyfer darllediad go iawn

Ymarfera fel y byddi di’n gweithio. Cyn i ti bwyso “chwarae”:

  • Paratoa daflen gêm: un dudalen gyda chwaraewyr y ddau dîm, eu rhifau, eu safleoedd ac un neu ddau nodyn am bob un.
  • Ysgrifenna restr ynganu. Gwiria bob enw dwyt ti ddim yn siŵr ohono, ac ysgrifenna fe fel mae’n swnio.
  • Dewisa dair stori rwyt ti am eu hadrodd yn ystod y gêm.
  • Ysgrifenna’r agoriad: yr 20 eiliad cyntaf, pan wyt ti’n croesawu’r gwylwyr ac yn gosod y sefyllfa.
  • Gwna restr eiriau. Dw i’n aml yn ysgrifennu llwyth o ansoddeiriau gwahanol i’w defnyddio yn ystod y gêm, fel nad ydw i’n ailadrodd yr un geiriau o hyd. Tyrd i bob gêm yn llawn geiriau a gwybodaeth y gelli di eu defnyddio yma ac acw.
Dallen Stanford yn sylwebu mewn blwch mewn stadiwm gyda nodiadau a thaflen gêm o'i flaen
Tyrd i bob gêm yn llawn gwybodaeth y gelli di ei defnyddio yma ac acw

10 ymarfer sylwebu y gelli di eu gwneud gartref

1. 10 munud o sylwebaeth

Sylweba ar 10 munud cyntaf y gêm, recordia nhw a stopia. Mae sesiynau byr yn dy helpu i ganolbwyntio, ac mae’n hawdd gwrando’n ôl ar 10 munud.

2. Y sgôr a’r amser

Bob ychydig funudau, rho’r sgôr, yr amser a’r sefyllfa, fel petai’r gwyliwr newydd droi’r darllediad ymlaen. I ddechrau, gosoda amserydd i dy atgoffa. Ddylai’r gwyliwr byth orfod meddwl beth yw’r sgôr.

3. Ymarfer enwau

Rho’r gêm ar saib ar ffrâm ar hap, ac o fewn pum eiliad enwa bob chwaraewr rwyt ti’n ei weld. Mae hyn yn datblygu’r adnabod sydyn sydd ei angen arnat ti pan mae’r chwarae’n gyflym.

4. Ymarfer tawelwch

Chwilia am eiliad fwyaf y gêm (cais, gôl, y pwyntiau sy’n ennill y gêm). Sylweba arni gydag un frawddeg gref, ac wedyn bydd yn dawel am bum eiliad a gad i’r dorf adrodd y gweddill. Tawelwch yw un o’r arfau sy’n cael eu defnyddio leiaf gan sylwebwyr.

5. Mynd i mewn ac allan

Ymarfera’r rhannau o’r darllediad sydd ddim yn chwarae: trosglwyddo i’r egwyl, dod yn ôl ohoni, croesawu’r gwylwyr ar y dechrau a chloi gyda’r canlyniad terfynol. Doedd neb wedi dysgu hyn i mi, ac mae’n hawdd ei ymarfer gartref.

6. Rheoli cyflymder

Recordia ddwy funud o sylwebaeth a gwranda’n ôl. Wyt ti’n rhuthro? Wyt ti’n anadlu? Arafa rhwng cyfnodau o chwarae a chyflyma pan mae’r chwarae’n cyflymu. Dylai dy gyflymder ddilyn y gêm.

7. Saib yr arbenigwr

Rho’r gêm ar saib ar ôl eiliad allweddol ac esbonia mewn 20 eiliad pam y digwyddodd hi. Mae un pwynt clir yn well na thri wedi’u rhuthro.

8. Adroddiad 60 eiliad o’r ystlys

Ysgrifenna a recordia adroddiad 60 eiliad o’r ystlys: anaf, eilyddiad neu eiriau’r hyfforddwr ar hanner amser. Wedyn cyfwela ffrind neu rywun o’r teulu fel petaen nhw’n chwaraewr.

9. Sylweba mewn pâr

Sylweba ar gêm gyda ffrind dros alwad fideo: un ohonoch chi fel prif sylwebydd, a’r llall fel arbenigwr. Ymarferwch drosglwyddo i’ch gilydd a pheidio â siarad ar draws eich gilydd.

10. Darllena’n uchel bob dydd

Darllena’n uchel am ychydig funudau bob dydd, unrhyw beth: adroddiad gêm, erthygl, llyfr. Mae’n datblygu rheolaeth ar dy anadl ac yn gwneud i ti siarad yn fwy llyfn.

Bonws: ymarfera bob fersiwn o dy gamp

Pan oeddwn i’n ymarfer, ro’n i’n sylwebu ar rygbi saith bob ochr a rygbi pymtheg bob ochr. Maen nhw’n ddwy gêm wahanol iawn sy’n gofyn am sgiliau gwahanol: mae rygbi saith bob ochr yn gyflym, mae’r ceisiau’n dod un ar ôl y llall ac ychydig iawn o amser sydd i’w lenwi, tra bod rygbi pymtheg bob ochr yn rhoi cymalau hirach, mwy o ddarnau gosod a mwy o le i ddadansoddi. Beth bynnag yw’r gamp rwyt ti’n sylwebu arni, ymarfera ar ei gwahanol fersiynau. Byddi di’n dod yn sylwebydd llawer mwy amryddawn.

Dallen Stanford a'r Gymraes Philippa Tuttiett yn y blwch sylwebu yn ystod twrnamaint HSBC World Rugby Sevens Series yn Sevilla, Sbaen
Gyda’r Gymraes Philippa Tuttiett yn ystod twrnamaint HSBC World Rugby Sevens Series yn Sevilla, Sbaen. Mae rygbi saith bob ochr a rygbi pymtheg bob ochr yn gofyn am sgiliau gwahanol, felly ymarfera’r ddau

Sut i wrando’n ôl ar dy recordiadau

Dim ond hanner y gwaith yw recordio. Gwranda’n ôl y diwrnod wedyn, pan gelli di glywed dy hun fel gwyliwr. Gofynna i ti dy hun:

  • Wnes i roi’r sgôr a’r amser yn ddigon aml?
  • Wnes i ynganu pob enw’n gywir?
  • Faint o eiriau llanw (“ym”, “ti’n gwybod”) wnes i eu defnyddio?
  • Wnes i siarad yn ystod yr eiliadau mawr?
  • Fyddai rhywun â’i lygaid ar gau yn gallu dychmygu beth ddigwyddodd?
  • Oedd fy egni’n cyd-fynd â’r eiliad?

Dewisa un peth i’w wella ar gyfer y sesiwn nesaf. Dydy ceisio gwella popeth ar unwaith ddim yn gweithio.

Cynllun ymarfer wythnosol syml

DiwrnodYmarfer
Dydd LlunParatoa daflen gêm a rhestr ynganu
Dydd MawrthSylweba ar yr hanner cyntaf a recordia fe
Dydd MercherGwranda’n ôl a dewisa un peth i’w wella
Dydd IauSylweba ar yr ail hanner, gan ganolbwyntio ar yr un peth hwnnw
Dydd GwenerYmarferion: tawelwch, mynd i mewn ac allan, adroddiad o’r ystlys
PenwythnosGwylia gêm fyw a gwranda’n ofalus ar y gweithwyr proffesiynol

Mae dwy neu dair awr o waith â ffocws bob wythnos yn ddigon i glywed gwelliant go iawn o fewn mis.

Dallen Stanford yn tynnu hunlun gyda chefnogwr y Springboks yn yr eisteddle yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2023 yn Ffrainc
Yn yr eisteddle yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023 yn Ffrainc. Mae gwylio gemau’n fyw hefyd yn rhan o’r hyfforddiant

Gofala am dy lais

Dy lais yw dy offeryn. Cynhesa fe cyn pob sesiwn, yfa ddŵr, gad iddo orffwys ar ôl sesiynau hir a phaid â gweiddi. Daw cryfder y llais o’r anadl, nid o’r sain, a dyna pam dw i bob amser yn sylwebu ar fy nhraed.

Tro dy ymarfer yn rîl sylwebu

Mae pob recordiad yn ddeunydd ar gyfer dy rîl. Pan wyt ti’n sylwebu ar eiliad rwyt ti’n falch ohoni, cadwa hi. Pan fydd gen ti bump neu chwech, golyga rîl sy’n para dwy neu dair munud, nodia pa rôl rwyt ti’n anelu ati, a dechreua ei hanfon. Dyna sut mae ymarfer gartref yn troi’n swydd gyntaf.

Mae’n gweithio. Mae sawl un o raddedigion Broadcast Academy wedi datblygu’n aruthrol fel hyn. Yn gyntaf fe wnaethon nhw Broadcast Foundations, wedyn Broadcast Intensive, ac wedyn dal ati i ymarfer ar eu pennau eu hunain gartref, a heddiw maen nhw yn fy rhaglen Mentorship. Fe gafodd un ohonyn nhw, Danny Stephens, ei gêm ryngwladol gyntaf fel sylwebydd rygbi: Lithwania – yr Almaen yn y Rugby Europe International Championships, ar 31 Hydref 2026. Mae hynny’n rhywbeth arbennig iawn.

Sylwebwyr Broadcast Academy a Dallen Stanford yn ystod sesiwn o'r rhaglen Mentorship ar alwad fideo
Sesiwn o’r rhaglen Mentorship gyda sylwebwyr Broadcast Academy o bob cwr o’r byd
Free guide: 10 Commentary Drills You Can Do at Home

Canllaw PDF am ddim

10 Commentary Drills You Can Do at Home

Cadwa’r canllaw hwn wrth law: lawrlwytha’r PDF argraffadwy am ddim, gyda thaflenni ymarfer (yn Saesneg).

Lawrlwytha’r canllaw am ddim

Dy gam nesaf

Mae ymarfer ar dy ben dy hun yn ddechrau gwych. Mae ymarfer gyda chynllun ac adborth gonest yn gyflymach.

Dechreua Broadcast Foundations →

Darllena hefyd: Sut i ddod yn sylwebydd chwaraeon a Sut i ddod yn sylwebydd rygbi.

Cwestiynau cyffredin

Sut galla i ymarfer sylwebaeth chwaraeon gartref?

Tro’r sain i ffwrdd ar ailchwarae gêm gyfan, sylweba arni i mewn i feicroffon a gwranda’n ôl y diwrnod wedyn. Paratoa daflen gêm a rhestr ynganu yn gyntaf, a chanolbwyntia ar un peth i’w wella ym mhob sesiwn.

Pa offer sydd ei angen arna i i ymarfer sylwebu?

Mae gliniadur, meicroffon (hyd yn oed dy ffôn i ddechrau) a chlustffonau’n ddigon. Mae ystafell dawel gydag arwynebau meddal yn gwneud i dy recordiadau swnio’n lanach.

Pa mor aml dylwn i ymarfer?

Mae dwy neu dair awr o waith â ffocws bob wythnos, wedi’u rhannu’n sawl sesiwn fer, yn ddigon i glywed gwelliant go iawn o fewn mis.

Ddylwn i ymarfer gydag uchafbwyntiau neu gemau cyfan?

Gemau cyfan. Eiliadau mawr yn unig yw uchafbwyntiau, ond mae’r rhan fwyaf o sylwebaeth yn digwydd yn y munudau tawelach rhyngddyn nhw.